Polisi Preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro pa ddata personol rydym yn ei gasglu, sut rydym yn ei gasglu a’i brosesu yn ogystal â sut rydym yn diogelu eich data personol.
D2 Rhaid i Propco brosesu data personol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am eich data personol, ein manylion cyswllt yw:
Enw: Duncan Evans
Cyfeiriad: Millgrove House, Parc Ty Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU
Rhif Ffôn: 02920 776209
E-bost: dataprotection@d2propco.com
Y math o wybodaeth bersonol a gasglwn
Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth ganlynol:
- Enw llawn
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt (gan gynnwys rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post)
Sut rydym yn casglu gwybodaeth bersonol
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu i ni’n uniongyrchol gennych chi ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni am un (neu fwy) o’r rhesymau canlynol:
- Cadw cofnodion mewnol
- Cysylltu â chi trwy e-bost, ffôn neu SMS
- Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a chytundebol
- Er mwyn cynnal ein perthynas fusnes
- I ateb eich ymholiadau
- Gallwn hefyd ryddhau gwybodaeth bersonol i asiantaethau rheoleiddio neu orfodi'r gyfraith, os ydynt yn gofyn i ni wneud hynny. Byddwn hefyd yn datgelu eich gwybodaeth lle caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol â chynghorau/awdurdodau lleol lle caiff data ei drosglwyddo i’r cyngor/awdurdod lleol a’i storio ganddo.
Nodwch os gwelwch yn dda: Mae prosesu data personol gydag unrhyw drydydd parti dibynadwy yn angenrheidiol er mwyn i ni allu darparu ein gwasanaethau. Bydd y trydydd partïon hyn ond yn cael mynediad at eich data personol os bydd angen iddynt gyflawni eu swyddogaethau ac ni chaniateir iddynt ddefnyddio unrhyw ddata personol at unrhyw ddibenion eraill.
O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
- Eich caniatâd. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â dataprotection@d2propco.com
- Mae gennym rwymedigaeth gytundebol
- Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol
- Mae gennym fuddiant cyfreithlon
Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol
Gall eich gwybodaeth gael ei storio â llaw neu'n electronig. Bydd unrhyw ddata sy'n cael ei storio'n electronig yn cael ei storio ar weinyddion diogel gyda'r mesurau diogelwch priodol yn eu lle (hy amgryptio a dilysu aml-ffactor). Bydd unrhyw ddata sy'n cael ei storio â llaw yn cael ei storio yn ein hadeiladau diogel yn y DU.
Cadw eich data
Byddwn ond yn cadw eich data cyhyd ag y bydd ei angen arnom i gyflawni ein dibenion, gan gynnwys unrhyw rai sy’n ymwneud â gofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.
Lle rydym wedi cael eich caniatâd i brosesu eich data personol, byddwn yn cadw eich data am 3 blynedd (oni bai bod y dibenion uchod yn nodi cyfnodau cadw gwahanol, ac os felly byddwn yn cydymffurfio â’r safonau hynny).
Unwaith y bydd y cyfnod cadw priodol wedi dod i ben neu pan na roddir caniatâd, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich data personol a bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel o bob storfa ddata gan gynnwys e-bost, llyfrgelloedd dogfennau, copïau wrth gefn o ddata, ac ati.
Eich hawliau diogelu data
O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:
- Eich hawl mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych chi hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi'n meddwl sy'n anghyflawn.
- Eich hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.
Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni yn dataprotection@d2propco.com os dymunwch wneud cais.
Sut i gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni yn dataprotection@d2propco.com.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data neu’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, ewch i wefan yr ICO https://ico.org.uk